Catholigiaeth
Gwedd
Enghraifft o: | Christian denominational family |
---|---|
Math | Cristnogaeth y Gorllewin, Chalcedonian Christianity |
Y gwrthwyneb | anti-Catholicism |
Dechrau/Sefydlu | 1054 |
Yn cynnwys | yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Independent Catholicism, Old Catholics, Liberal Catholic movement, folk Catholicism |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Traddodiad yng nghrefydd Cristnogaeth yw Catholigiaeth. Mae mwy nag un ystyr i'r gair "catholig" (daeth y gair Groeg καθολικός (katholikos; "cyffredinol") i'r Gymraeg drwy'r Lladin Catholicus).[1] Yr ystyr fwyaf cyffredin mae'n debyg yw cyfeiriad at yr Eglwys Gatholig Rufeinig, ac i'r eglwys honno dyna y wir eglwys gatholig. Gall y gair gael ei ddefnyddio i gyfeirio at unrhyw eglwys Gristnogol esgobol sydd yn olrhain ei dechreuad i'r apostolion, ac felly yn rhan o'r corff eang o gredinwyr catholig. Ymhlith y rhain mae nid yn unig yr Eglwys Gatholig Rufeinig ond hefyd yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, gan gynnwys Eglwys Uniongred Groeg ac Eglwys Uniongred Rwsia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Catholig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2016.