Brwydr Gallipoli
Enghraifft o'r canlynol | ymgyrch filwrol, ymosodiad milwrol |
---|---|
Dyddiad | 9 Ionawr 1916 |
Rhan o | y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol |
Dechreuwyd | 25 Ebrill 1915 |
Daeth i ben | 9 Ionawr 1916 |
Lleoliad | Gallipoli |
Gwladwriaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol oedd Brwydr Gallipoli, weithiau Ymgyrch y Dardanelles, (Twrceg: Çanakkale Savaşları) a ymladdwyd ar benrhyn Gallipoli (Twrci) rhwng 25 Ebrill 1915 hyd 9 Ionawr 1916. Glaniodd byddin y cyngheiriaid, oedd yn cynnwys carfan gref o'r Ymerodraeth Brydeinig, yn enwedig milwyr o Awstralia a Seland Newydd, ynghyd â milwyr Ffrengig, ar y penrhyn gyda'r bwriad o gipio Istanbul, prifddinas Ymerodraeth yr Otomaniaid. Byddai hyn wedi agor y culfor sy'n arwain i'r Môr Du, a'i geneud yn bosibl i yrru adnoddau rhyfel i gynorthwyo Rwsia.
Wedi misoedd o ymladd caled yn erbyn byddin yr Ymerodraeth Otomanaidd, gorfodwyd y cyngheiriad i encilio yn Ionawr 1916, wedi diddoef colledion mawr. Daeth arweinydd y Twrciaid, Mustafa Kemal Atatürk, yn arwr cenedlaethol, a gwelir y frwydr fel dechrau'r broses a arweiniodd at annibyniaeth Twrci wyth mlynedd yn ddiweddarach dan Atatürk.