Brenhinllin y Ptolemïaid
Gwedd
Brenhinllin o darddiad Macedonaidd a ddaeth yn rheolwyr yr Aifft am bron 300 mlynedd oedd Brenhinllin y Ptolemïaid.
Sefydlwyd y llinach gan Ptolemi mab Lagus, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, daeth Ptolemi yn satrap yr Aifft. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn un arall o gadfridogion Alecsander, Perdiccas, pan ymosododd ef ar yr Aifft, ac yn 305/4 CC cyhoeddodd ei hun yn frenin. Yn 285 CC, gwnaeth ei fab, Ptolemi II Philadelphus, yn gyd-frenin.
- Ptolemi I Soter (305 CC-282 CC)
- Ptolemi II Philadelphus(285 CC-246 C)
- Ptolemi III Euergetes (246 CC-222 CC)
- Ptolemi IV Philopator (222 CC-204 CC)
- Ptolemi V Epiphanes(204 CC-180 CC) ar y cyd a Cleopatra I
- Ptolemi VI Philometor (180 CC-164 CC, 163 CC-145 CC)
- Ptolemi VII Neos Philopator (ni theyrnasodd)
- Ptolemi VIII Physcon (170 CC-163 CC, 145 CC-116 CC) ar y cyd a * Cleopatra II yna Cleopatra III
- Cleopatra II Philometora Soteira (131 CC-127 CC)
- Cleopatra III Philometor Soteira Dikaiosyne Nikephoros (116 CC-101 CC)
- Ptolemi IX Lathyros (116 CC-107 CC, 88 CC-81 CC
- Ptolemi X Alexander I (107 CC-88 CC)
- Ptolemi XI Alexander II (80 CC) ar y cyd a Berenice III
- Ptolemi XII Auletes (80 CC-58 CC, 55 CC-51 CC)
- Cleopatra V Tryphaena (58 CC-57 CC) ar y cyd a Berenice IV Epiphaneia (58 CC-55 CC)
- Ptolemi XIII Theos Philopator
- Cleopatra VII (51 CC-30 CC); yr enwocaf o'r llinach, cariad Iŵl Cesar a Marcus Antonius
- Ptolemi XIV
- Ptolemi XV Caesarion (47 CC-30 CC), mab Cleopatra VII a Iŵl Cesar