Ardal Lywodraethol Aqaba
Math | Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen |
---|---|
Prifddinas | Aqaba |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Iorddonen |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 6,900 km² |
Yn ffinio gyda | Tabuk Province, Ardal Lywodraethol Ma'an, Tafilah Governorate |
Cyfesurynnau | 29.52361°N 35.00722°E, 29.75°N 35.33333°E |
JO-AQ | |
Ardal Lywodraethol Aqaba (Arabeg: العقبة al-ʻAqabah) yw un ardaloedd lywodraethol (governate) yr Iorddonen. Mae'r gofernad wedi'i leoli i'r de o Ardal Lywodraethol Amman, a'r brifddinas, Amman. Prif dref y gofernad yw dinas Aqaba. Dyma'r pedwerydd gofernad fwyaf yr Iorddonen yn ôl ardal ond mae'n 10fed yn ôl poblogaeth. Math ar lywodraeth leol yw Gofernad ond yn wahanol i gyngor sir, mae llywodraeth y gofernad wedi ei benodi gan arweinydd y wlad, yn yr achos yma, yn waelodol Abdullah II, brenin Iorddonen.
Mae Aqaba, y porthladd yn y Môr Coch ar ben Gwlff Aqaba ac mae'n gorwedd ysgwydd yn ysgwydd gyda thref Eilat sydd yn Israel. Fel unig borthladd y wlad, mae'n chwarae rhan bwysig ym mywyd economaidd yr Iorddonen. Mae dau o dri chyrchfan twristiaeth uchaf Jordan yn gorwedd yn Ardal Lywodraethol Aqaba; Wadi Rum, adfeilion Petra a dinas hanesyddol a phorthladd Aqaba. Y porthladd yw canolbwynt mewnforio / allforio pwysicaf yr Iorddonen. Mae'r porthladd diwydiannol tua 15 km i'r de o'r traethau a chanol dinas Aqaba.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Gofernad Aqaba yn gorwedd ym mhen de-orllewinol Jordan, mae'n ffinio ag Ardal Lywodraethol Ma'an sy'n gorwedd i'r dwyrain. I'r gogledd ceir Ardal Lywodraethol Tafilah, teyrnas Sawdi Arabia o'r de, ac Israel o'r gorllewin, a Gwlff Aqaba o'r de-orllewin. Mae dau bwynt croesi rhyngwladol yn Aqaba Governorate, Croesfan Border Durra a chroesfa Wadi Dubai.
Roedd ffin Gwlwad Iorddonen-Sawdi Arabi yn wreiddiol yn rhedeg ychydig o gilometrau i'r de o Aqaba. Ym 1965, cyfnewidiodd y diweddar Brenin Hussein dir anial yn nwyrain Gwlad Iorddonen am 12 km (7 milltir) o arfordir ar y Môr Coch gan ymestyn arfordir prin Iorddonen.
Lleolir Wadi Rum, sef wadi fwyaf Iorddonen o fewn ffiniau'r Gofernad. Mae'n atyniad dwristiaeth boblogaidd a lleoliad ar gyfer sawl ffilm enwog megis Lawrence of Arabia (1962), Rogue One: A Star Wars Story, (2016); Star Wars: The Rise of Skywalker (2019) a The Martian (2015).
Hanes
[golygu | golygu cod]Lawrence o Arabia
[golygu | golygu cod]Bu pobl yn byw yn ninas Aqaba ers 4000 CC, gan gyrraedd ei anterth yn ystod oes y Rhufeiniaid, pan adeiladodd y Rhufeiniaid y llwybr Via Traiana Nova sy'n dod i ben yn Aqaba. Roedd Aqaba (a adwaenir fel "Ayla" bryd hynny) hefyd yn garsiwn 10fed Lleng Rufeinig y Culfor (Legio X Fretensis).
Roedd Aqaba hefyd yn safle rhai o anturiaethau enwog Sinbad y Morwr yn anturiaethau enwog Nosweithiau Arabia (Arabian Nights) yn Mil ac un o nosweithiau.
Yn hanes modern, mae dinas Aqaba yn adnabyddus am Lawrence o Arabia a Brwydr Aqaba, un o frwydrau allweddol y Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol a daeth i amlygrwydd poblogaidd yn y ffilm Laurence of Arabia pan ddarluniwyd yr ymosodiad ar Rheilffordd Hejaz a'r cyrch ar dref Aqaba.
Y trysor archeolegol mwyaf yn y rhanbarth yw Petra. Mae Petra yn gorwedd ar lethr dwyreiniol Mynydd Hor yn Wādi ʻAraba, rhan o Rift Valley sy'n rhedeg o Wlff Aqaba ar y Môr Coch i'r Môr Marw.
Daethpwyd o hyd i'r sgript hynaf a ysgrifennwyd yn yr wyddor Arabeg yn Wadi Rum yn Gofernad Aqaba, ac mae'n dyddio'n ôl i'r 4g.
Economi
[golygu | golygu cod]Mae poblogaeth y Gofernad yn dibynnu'n drwm ar dwristiaeth fel prif ffynhonnell incwm. Porthladd Aqaba yw'r unig borthladd ar gyfer yr Iorddonen. Daw bron pob un o fasnach dramor yr Iorddonen drwy Aqaba. Yn ystod Rhyfel Irac-Iran, defnyddiodd Irac borthladd Aqaba ar gyfer ei masnach dramor.
Adrannau gweinyddol
[golygu | golygu cod]Rhennir Aqaba Governorate yn dair adran yn ôl erthygl 15 o System Is-adrannau Gweinyddol y flwyddyn 2000 gan y Weinyddiaeth Gartref:
Dosbarth | Enw Arabeg | Is-ddosbarth | Canolfan Weindyddol | |
---|---|---|---|---|
1 | Dosbarth Priffinas (Al-Qasabah) | لواء قصبة العقبة | yn cynnwys dinas Aqaba a thair pentref ger llaw | Aqaba |
2 | Dosbarth Wadi Araba | قضاء وادي عربة | yn cynnwys naw pentref | Al-Reeshah |
3 | Dosbarth Al-Quwairah | لواء القويرة | yn cynnwys 15 dosbarth | Al-Quwairah |
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Poblogaeth y dosbarthiadau yn ôl y cyfrifiad:[1]
Dosbarth | Population (Census 1994) |
Population (Census 2004) |
Population (Census 2015) |
---|---|---|---|
Aqaba Governorate | 79,839 | 102,097 | 188,160 |
Al-Qūaīrah | 12,736 | 17,132 | 29,142 |
Qaṣabah al-'Aqabah | 67,103 | 84,965 | 159,018 |
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Dinas Aqaba yw priddinas y Gofernad
-
Trên yn cyrraedd Porthladd Aqaba
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 December 2016.