Y Gwrthryfel Arabaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B newid hen enw, replaced: Saudi Arabia → Sawdi Arabia (3), Yemen → Iemen using AWB |
B cat |
||
Llinell 55: | Llinell 55: | ||
[[Categori:Hanes Israel]] |
[[Categori:Hanes Israel]] |
||
[[Categori:Hanes Libanus]] |
[[Categori:Hanes Libanus]] |
||
[[Categori:Hanes milwrol yr Ymerodraeth Otomanaidd]] |
|||
[[Categori:Hanes Sawdi Arabia]] |
[[Categori:Hanes Sawdi Arabia]] |
||
[[Categori:Hanes Syria]] |
[[Categori:Hanes Syria]] |
||
[[Categori:Y Rhyfel Byd Cyntaf]] |
[[Categori:Y Rhyfel Byd Cyntaf]] |
||
[[Categori:Rhyfeloedd herwfilwrol]] |
[[Categori:Rhyfeloedd herwfilwrol]] |
||
[[Categori:Ymerodraeth yr Otomaniaid]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 23:10, 22 Tachwedd 2020
Y Gwrthryfel Arabaidd | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o ymgyrchoedd Arabia yn theatr y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. | |||||||||
T. E. Lawrence wedi Brwydr Aqaba. | |||||||||
| |||||||||
Cydryfelwyr | |||||||||
Teyrnas Hejaz Teyrnas Nejd Al Rashid Y Deyrnas Unedig |
Ymerodraeth yr Otomaniaid | ||||||||
Arweinwyr | |||||||||
Faisal Ibn Saud Abdul Aziz Rashid Edmund Allenby T. E. Lawrence |
Djemal Pasha Fahreddin Pasha Muhiddin Pasha | ||||||||
Nerth | |||||||||
30,000 (Mehefin 1916)[1] | 23,000[1] |
Gwrthryfel a gychwynwyd gan y Sharif Hussein bin Ali oedd y Gwrthryfel Arabaidd (1916–1918) (Arabeg: الثورة العربية Al-Thawra al-`Arabiyya; Tyrceg: Arap İsyanı) gyda'r nod o ennill annibyniaeth i'r Arabiaid oddi wrth Ymerodraeth yr Otomaniaid a chreu un wladwriaeth Arabaidd unedig i ymestyn o Aleppo yn Syria i Aden yn Iemen. Roedd yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn y Dwyrain Canol.
Arweiniwyd y gwrthryfel gan feibion y Sharif, yr Emiriaid Ali, Faisal, Abdullah a Zeid, gyda chymorth rhai swyddogion Prydeinig a Ffrengig. Ym Mehefin 1917 cipiodd yr Arabiaid borthladd Aqaba ar y Môr Coch, a symudasant yn raddol i'r gogledd. Targedodd yr Arabiaid Reilffordd Hejaz gan dorri cyflenwadau bwyd a dillad i'r Otomaniaid (neu'r Tyrciaid) ym Medina, ac roedd hyn o gymorth i ymgyrch y Cynghreiriaid yn Sinai a Phalesteina. Cwympodd Damascus ym mis Hydref 1918.
Creda'r Arabiaid fod ganddynt air Prydain: y byddai gwladwriaeth Arabaidd unedig yn cael ei ffurfio ar ôl cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ôl Llythyron McMahon–Hussein, ond wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf cawsant eu dadrithio'n llwyr gan Gytundeb Sykes–Picot, a oedd yn rhannu'r Dwyrain Canol rhwng Prydain a Ffrainc, drwy Ddatganiad Balfour a oedd yn addo gwlad i'r Iddewon ym Mhalesteina.
Rhan gyntaf
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd y Sharif y gwrthryfel ym Mehefin 1916. Elwant ar y dechrau ar artileri a ddanfonwyd o'r Swdan gan y Llywodraethwr Cyffredinol Syr Reginald Wingate, a llwyddasant i gipio Mecca a gorfodi'r Tyrciaid i ildio'u garsiwn yn Ta'if ar 22 Medi. Arafodd hynt yr Arabiaid, a chadwodd y Tyrciaid eu gafael ar Medina.
Adfywio'r gwrthryfel
[golygu | golygu cod]Ym mis Hydref 1916 aeth y Prydeinwyr Syr Ronald Storrs a'r Is-gyrnol T. E. Lawrence i Jeddah i geisio adfywio'r gwrthryfel. Gweithiodd Lawrence â'r Emir Faisal gan annog gwrthryfel herwfilwrol i fanteisio ar fudoledd yr Arabiaid a'u gwybodaeth a chefnogaeth leol. Bydd hyn yn ynysu'r Tyrciaid yn y trefi mawr ac yn eu gwneud yn ddibynnol ar Reilffordd Hejaz ac yn y bôn yn hawdd eu gorchfygu trwy ysbeilio a chyrchoedd bychain. Gall yr Arabiaid yna symud tua'r gogledd ar ystlys orllewinol Byddin Ymdeithiol yr Aifft dan y Cadfridog Syr Edmund Allenby.
1917
[golygu | golygu cod]Llwyddodd yr Arabiaid i gipio Wejh yn Ionawr 1917, ac Aqaba yng Ngorffennaf gan gysylltu tiriogaeth yr Arabiaid â thir yr Ymerodraeth Brydeinig yn yr Aifft. Targedwyd Rheilffordd Hejaz â dynamit.
1918
[golygu | golygu cod]Roedd rhan olaf y gwrthryfel yn galw ar gydweithio'n agos ag Allenby wrth i holl luoedd y Cynghreiriaid symud tuag at Damascus. Yng ngwanwyn 1918 symudodd yr Arabiaid i mewn i Syria. Ynysodd yr Arabiaid ddinas Dera'a gan dwyllo'r Tyrciaid i gredu bydd prif symudiad Allenby yn dod o'r cyfeiriad hwn. Cwympodd Damascus ar 1 Hydref.
Hanesyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r mwyafrif helaeth o'r hanesyddiaeth ar y gwrthryfel yn y Gorllewin ac yn yr iaith Saesneg yn canolbwyntio ar ran T. E. Lawrence.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
|