Deinameit
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Dynamit)
Ffrwydryn a wneir o nitroglyserin yw deinameit, dynameit neu ddynamit.[1] Cafodd ei batentu gan y cemegydd Swedaidd Alfred Nobel ym 1867, a gymysgodd nitroglyserin gyda diatomit (cieselgwr) i greu defnydd sych ac yn fwy diogel i'w gyffwrdd na nitroglyserin hylifol. Mae'r solet hefyd yn siocleddfol ond yn hawdd ei danio. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd mwydion coed yn lle diatomit, ac ychwanegwyd sodiwm nitrad i gryfhau'r ffrwydryn.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ dynameit. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
- ↑ (Saesneg) Dynamite. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Awst 2017.