Uwchdechnoleg
Enghraifft o'r canlynol | type of technology |
---|---|
Math | technoleg |
Y gwrthwyneb | low technology |
Technoleg ddatblygedig ddiweddar sydd ymhell ar y blaen i'w chystadleuwyr ar y farchnad yw uwchdechnoleg.[1] Mae'n ymwneud â defnyddio technegau, peiriannau, a defnyddiau i ddatblygu dyfeisiau a dulliau newydd sydd yn fwy effeithiol, cynhyrchiol, a thrawsffurfiol na'r hen bethau a ffyrdd traddodiadol. Mae uwchdechnoleg yn agwedd bwysig o nifer o wyddorau cymhwysol a diwydiannau modern, gan gynnwys electroneg, telegyfathrebu, technoleg gwybodaeth, biotechnoleg, nanotechnoleg, roboteg, deallusrwydd artiffisial, ynni adnewyddadwy, ac awyrofod.[2]
Meysydd
[golygu | golygu cod]Electroneg a thelegyfathrebu
[golygu | golygu cod]Dylunio, datblygu, a gweithgynhyrchu dyfeisiau electronig ar gyfer y farchnad yw un o brif feysydd uwchdechnoleg, gan gynnwys cyfrifiaduron, ffoniau clyfar, setiau teledu, a chyfarpar telegyfathrebu. Mae'n ymwneud â thechnolegau megis cylchedau cyfannol, microbrosesyddion, rhwydweithiau telegyfathrebu, a chyfathrebu di-wifr.
Technoleg gwybodaeth
[golygu | golygu cod]Mae technoleg gwybodaeth yn cwmpasu systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol, meddalwedd, a rheoli data, ac yn cynnwys rhaglennu cyfrifiadurol, datblygu meddalwedd, rheoli cronfeydd data, seiber-ddiogelwch, a chyfrifiaduro'r cwmwl. Mae ganddi rôl ganolog wrth alluogi'r oes ddigidol a chefnogi busnesau a sefydliadau eraill yn eu gweithgareddau a phrosesau.
Biotechnoleg
[golygu | golygu cod]Defnyddio organebau byw er mwyn creu cynnyrch neu brosesau newydd i bwrpasau penodol ydy biotechnoleg. Mae'n cynnwys peirianneg genetig, fferylleg, amaethyddiaeth, ac ymchwil biomeddygol. Mae biotechnoleg wedi cyfrannu at ddatblygiadau mewn meddygaeth, cynhyrchu bwyd, a chynaladwyedd amgylcheddol.
Nanotechnoleg
[golygu | golygu cod]Rheoli mater ar raddfa atomig a moleciwlaidd, fel rheol 100 nanomedr neu lai, a chynhyrchu dyfeisiau a defnyddiau sydd a'u maintoli yn gorwedd o fewn y mesur hwnnw yw nanotechnoleg. Defnyddir mewn electroneg, meddygaeth, storio ynni, a chael gwared â llygredd a difwynwyr o'r amgylchedd.
Roboteg a deallusrwydd artiffisial
[golygu | golygu cod]Dau faes sydd yn dibynnu'n bennaf ar uwchdechnoleg yw cynhyrchu robotau i berfformio tasgau'n awtomatig, a datblygu systemau gyda'r nod o ddynwared deallusrwydd dynol, megis datrys problemau, dysgu, a gwneud penderfyniadau.
Ynni adnewyddadwy
[golygu | golygu cod]Mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a phroblemau amgylcheddol eraill, ceir swyddogaeth hynod o bwysig gan uwchdechnoleg wrth ddatblygu technolegau ynni adnewyddadwy, megis ynni haul, ynni gwynt, ynni dŵr, ac ynni biomas. Mae defnyddiau materol newydd, systemau effeithlon o storio ynni, a thechnolegau'r grid clyfar yn cyfrannu at wella'r ffyrdd o gynhyrchu, dosbarthu, a threulio ynni.
Awyrofod ac awyrennu
[golygu | golygu cod]Mae'r diwydiant awyrofod yn dibynnu'n gryf ar uwchdechnoleg am ddylunio awyrennau, gweithgynhyrchu, systemau llywio, a fforio'r gofod. Ers yr 20g, bu cynnydd syfrdanol mewn awyrennu a theithio'r gofod, er enghraifft systemau gyriant, aerodynameg, a lloerennau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ uwchdechnoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2023.
- ↑ Steenhuis, H.; Bruijn, E. J. De (Gorffennaf 2006). "High technology revisited: definition and position" (yn en). 2006 IEEE International Conference on Management of Innovation and Technology 2: 1080–1084. doi:10.1109/ICMIT.2006.262389. ISBN 1-4244-0147-X. https://ieeexplore.ieee.org/document/4037187.