Melysion
Bwydydd gyda chynnwys uchel o siwgr yw melysion. Gan amlaf maent ar ffurf danteithion bychain a ellir eu bwyta'n gyfleus, yn wahanol i bwdinau a melysfwydydd eraill a fwyteir fel pryd o fwyd neu fyrbryd mawr.
Mae plant yn hoff iawn o felysion. Mae hoffter melysion yn nodwedd a ymddengys dro ar ôl tro mewn llyfrau Roald Dahl, gan gynnwys ei gofiant Boy.
Enwau
[golygu | golygu cod]Melysion a pethau melys yw'r termau Cymraeg cyffredinol am y bwydydd hwn.[1] Mae "melysion" yn dyddio'n ôl i 1851 ac fe geir yn yr iaith lafar ar draws Cymru. Gellir defnyddio'r ffurf unigol "melysyn".[2] Defnyddir "melysion" yn enwedig yn ardaloedd Teifi a Thywi,[3] a defnyddir "pethau melys" yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.[4][5] Ceir nifer o enwau eraill sy'n perthyn i ardaloedd penodol, y mwyafrif ohonynt yn fenthyceiriau o'r Saesneg. Gan amlaf dywedir losin yn ne Cymru a fferins yn y gogledd.[6]
- Losin neu losins (ffurfiau unigol: losinen, losen). Gair o'r de[1] sy'n dyddio o 1908. Daw o'r gair Saesneg lozenge.[7] Defnyddir mewn ardal sy'n cyfateb yn agos i siroedd Penfro, Caerfyrddin, a Morgannwg.[8]
- Fferins neu weithiau ffeirins (ffurfiau unigol: fferen, ffeiryn). Gair o'r gogledd orllewin[1] yw hwn a ddaw o'r gair Saesneg fairings, hynny yw melysion neu anrhegion a brynid mewn ffair. Mae'n dyddio o'r flwyddyn 1722. Yn gyffredinol defnyddir ar lafar yn y gogledd yn yr ystyr melysion, ac yn y de yn amlach yn yr ystyr anrhegion o'r ffair.[9] Ceir weithiau y ffurf luosog fferis.[1] Fe'i glywir ar draws Cymru i ogledd Afon Rheidol,[8] yn enwedig siroedd Meirionnydd a Dinbych.[5]
- Da-da. Gair gogleddol[1] a geir yn enwedig yn y gogledd-orllewin sy'n efelychu'r term Ffrangeg bonbon. Mae'n dyddio'r o'r flwyddyn 1881.[10] Noda D. Geraint Lewis taw "gair plant" yw "da-da".[3] Ceir hefyd y term peth(au) da[1] a ddefnyddir yn Arfon a Môn.[4]
- Minceg, minciac, minciag, neu mincieg (i gyd yn ffurfiau lluosog ac unigol). Gair o'r gogledd sy'n dyddio o 1881 ac yn fenthycair o'r Saesneg mint cake. Defnyddir yn bennaf am felysion mintys.[11] Ceir yn enwedig yng ngogledd Meirionnydd,[8] ym mhen Dyffryn Conwy.[3]
- Cacenni (ffurf unigol: cacen). Gair a ddefnyddir yn y canolbarth[1] yn unigryw, yn enwedig dwyrain y canolbarth[8] (Trefaldwyn).[3][5] Defnyddir y gair "cacen" yn amlach i ddisgrifio melysfwyd pob, hynny yw teisen.
- Cisys (ffurf unigol: cisen). Daw o'r gair Saesneg tafodieithol kiss, sef "melysfwyd o gynhwysion amrywiol".[12] Gair a ddefnydir ar lafar weithiau yn y de ddwyrain[1] ac yng ngogledd Ceredigion[12] (Rheidiol ac Ystwyth)[3] ac yn ysbeidiol yng ngogledd Sir Benfro.[6]
- Swîts (unigol: switsen).[1] O'r gair Saesneg sweets a ddefnyddir yn Gymraeg gyntaf yn yr 20g.[13] Gair a geir yn y de-orllewin,[8] yn enwedig ar lafar yn Nyffryn Teifi, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.[13]
- Candis (ffurfiau unigol: candi, canden, candisen).[1] O'r gair Saesneg candy. Defnyddir yn Gymraeg gyntaf yn yr 16g.[14] Ceir ar Ynys Môn ac yng nghanol Ceredigion, ac hwn yw'r prif air am felysion yn rhannau o Frycheiniog.[6] Defnyddir hefyd ym mhen Dyffryn Wysg.[3]
- Neisis (ffurf unigol: neisi).[1] O'r gair Saesneg tafodieithol nicey. Ar lafar yn Sir Benfro.[15]
- Trops[1] neu drops (ffurf unigol: dropsen).[16] Mewn dau bentref yn y de-orllewin yn unig y'i cofnodwyd: Cynwyl Elfed a Brechfa.[8]
- Lemons.[1] Hynny yw, losin lemwn. Defnyddir fel enw cyffredin ar felysion yn ne Ceredigion.[5]
- Taffis neu taffins (ffurf unigol: taffen).[1] Gair a geir yn unigryw rhwng Afon Tawe a Afon Nedd.[8]
Hanes
[golygu | golygu cod]Gan nad oedd siwgr ar gael ar draws y rhan fwyaf o'r Henfyd, defnyddiwyd mêl fel melysydd a gyfunwyd â ffrwythau, cnau, perlysiau a sbeisys.[17] (Mae'r geriau "mêl" a "melys" yn rhannu'r un wreiddyn Indo-Ewropeg, melit.)[2][18] Ceir tystiolaeth o felysion siwgr mewn hieroglyffau Eifftaidd sy'n dyddio'n ôl i 1000 CC. Ystyrid y cyffeithydd (gwneuthurwr melysion) yn grefftwr medrus gan y Rhufeiniaid. Yn ystod yr Oesoedd Canol lledaenodd y Persiaid yr arfer o amaethu'r gansen siwgr, ei choethi a'i defnyddio i wneud melysion â siwgr yn gynhwysyn elfennol. Roedd maint bychan o siwgr ar gael yn Ewrop yn ystod y cyfnod hwn a defnyddiwyd i wneud cyffeithiau a werthid yn yr apothecari. Dechreuodd Fenis fewnforio siwgr o Arabia yn y 14g. Erbyn yr 16g gwnaed melysion o law drwy gymysgu siwgr berwi gyda ffrwythau a chnau mewn i siapiau cywrain. Adeiladwyd y peiriannau cyntaf i gynhyrchu melysion ar ddiwedd y 18g.[17]
Mathau
[golygu | golygu cod]Cisys
[golygu | golygu cod]- Prif: Cisys
Conffits
[golygu | golygu cod]- Prif: Conffit
Licris ac anis
[golygu | golygu cod]Melysion berwi
[golygu | golygu cod]- Prif: Melysion berwi
Melysion jeli
[golygu | golygu cod]- Prif: Melysion jeli
Melysion tynnu
[golygu | golygu cod]- Prif: Melysion tynnu
Siocled
[golygu | golygu cod]- Prif: Siocled
Trops
[golygu | golygu cod]- Prif: Trops
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
- ↑ 2.0 2.1 melys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 50.
- ↑ 4.0 4.1 peth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 54–55.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Thomas a Thomas (1989), t. 15.
- ↑ losin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 8.6 Beth Thomas a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Caerdydd: Gwasg Taf, 1989), t.13
- ↑ fferins. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ da-da. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ minceg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ 12.0 12.1 cisen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ 13.0 13.1 swîts. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ candi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ neisi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ drop. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ 17.0 17.1 (Saesneg) candy (food). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
- ↑ mêl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.