Faisal I, brenin Irac
Gwedd
Brenin Teyrnas Irac o 1921 hyd 1933 a Brenin Teyrnas Arabaidd Syria am gyfnod byr ym 1920 oedd Faisal bin Hussein bin Ali al-Hashemi (Arabeg: فيصل بن حسين بن علي الهاشمي, Fayṣal ibn Ḥusayn; 20 Mai 1885 – 8 Medi 1933), oedd yn aelod o'r frenhinllin Hashemaidd. Roedd Faisal yn un o feibion Hussein bin Ali, Sharif Mecca, ac yn arweinydd yn y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Anogodd pan-Arabiaeth ymysg llwythau'r Arabiaid a'r enwadau Sunni a Shia, gan obeithio ennill gwladwriaeth Arabaidd oedd yn cynnwys Mesopotamia, Syria Fawr a gweddill y Cilgant Ffrwythlon.